SEIBIANNAU RHAMANTUS DROS Y PENWYTHNOS
Ar ôl dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae angen dygymod â dyddiau oer a thywyll diwedd y gaeaf cyn gogoniannau’r gwanwyn. Felly, beth am fynd â’r sawl sy’n annwyl gennych am ddwy neu dair o nosweithiau rhamantus yn
Neuadd Lwyd?
Eleni (2012) byddwn yn dathlu Gŵyl Santes Dwynwen rhwng 26 a 28 Ionawr, a Gŵyl Sant Ffolant rhwng 9 a 12 Chwefror, gyda gostyngiad o 10% ar ein cyfraddau dwy neu dair noson am swper, gwely a brecwast, ynghyd â haner potel o siampên am ddim.
Gallwn hefyd eich cyfeirio at ynys fechan Llanddwyn (lle bu Santes Dwynwen yn byw), un o leoliadau harddaf a mwyaf rhamantus Ynys Môn, lle gallwch fwynhau taith drawiadol ar y traeth i leoliad swynol Llanddwyn.