YSTAFELLOEDD GWELY
Mae pedair ystafell wely yn Neuadd Lwyd , ac mae’n cynnig chwe lle gwely i westeion detholgar sy’n cael dewis o ystafelloedd wedi eu cynllunio’n unigol, ac sydd wedi cael eu henwi ar ôl aelodau o deulu’r Tuduriaid. Roedd cyndadau brenhinoedd y Tuduriaid yn byw ym Mhenmynydd ac yn addoli yn Eglwys Sant Gredifael.

Mae teledu/DVD sgrin fflat ynghyd â chwaraewr CD, radio DAB, sychwr gwallt, cyfleusterau gwneud te a chadeiriau breichiau i ymlacio ynddynt i’w cael ymhob ystafell wely. Os gwelwch yn dda, cliciwch ar enw'r ystafell, i ganfod mwy o wybodaeth:- Owain | Edmwnd | Catharine | Siasper